Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
26 Mawrth 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5571
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit:
David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn dilyn diwedd cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd a gynhaliwyd ar 21 a 22 Mawrth?
Gofynnwyd y 6 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cwestiynau i’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
Dechreuodd yr eitem am 14.39
Gofynnwyd y 5 cwestiwn cyntaf.
Ymddiheurodd Helen Mary Jones i’r Siambr ac unrhyw un arall y gallai ymadrodd a ddefnyddiodd mewn dadl yr wythnos diwethaf a gyfeiriodd at hunanladdiad, fod wedi peri loes iddynt neu dramgwyddo yn eu herbyn. Dywedodd nad oedd yr ymadrodd yn rhan o sgript ac na fyddai fyth wedi ei ddefnyddio mewn araith neu gwestiwn wedi ei sgriptio, ac ymddiheurodd yn llaes.
Dechreuodd yr eitem am 15.00
Dechreuodd yr eitem am 15.17
Dechreuodd yr eitem am 16.36
NDM7005 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.36
NDM7004 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Chwefror 2019
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.36
NDM7006 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.46
NDM7007 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.51
NDM7008 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.54
NDM7009 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.58
NDM7010 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.01
NDM7011 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM7012 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM7013 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddfau Trethi Cymru (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.14
NDM7014 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Nid oedd cyfnod pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.19
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 27 Mawrth 2019